Mynd yn syth i'r brif ddewislen

Rhodri Glyn Thomas AM / AC

Cafodd y dudalen hon ei ddiweddaru ar Monday, 05 November 2007

Cofrestr Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill Aelodau

Mae'r cysylltiadau isod yn agor tudalennau ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol Defnyddiwch eich botwm 'yn ôl' i ddychwelyd i'r dudalen hon.

Mae Adran 72 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheol Sefydlog 4 yn mynnu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ac yn cyhoeddi Cofrestr Buddiannau Aelodau'r Cynulliad.

Rhaid i Aelodau gofrestru unrhyw fuddiannau perthnasol cyn pen wyth wythnos o dyngu'r llw neu'r datganiad a chofrestru unrhyw newidiadau i'r buddiannau hynny cyn pen pedair wythnos hefyd. Mae Adran 72(6)(a) yn ei gwneud yn drosedd i unrhyw Aelod gyfranogi yn nhrafodion y Cynulliad heb gofrestru budd perthnasol fel y nodwyd yn Atodiad Rheol Sefydlog 4. Yr Aelodau yn unig sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r dyletswyddau i gofrestru, er y gallant ofyn i'r Llywydd am gyngor.

Archwilio'r Gofrestr

Cedwir y Gofrestr Buddiannau Aelodau yn y Swyddfa Gyflwyno. Mae ar agor i'r cyhoedd ei harchwilio yn y Swyddfa Gyflwyno ei hun yn ystod ei horiau agor. Gellir gwneud cais am gopïau cofnodion unigol yn unol ag Adran 119 Deddf Llywodraeth Cymru.

Rhodri Glyn Thomas AM / AC - Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr