Rhodri Glyn Thomas AM / AC
Ynghylch Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Yn draddodiadol, mae Sir Gaerfyrddin wedi cael y clod am ennill y refferendwm a arweiniodd at greu'r Cynulliad. Y sir oedd yr ardal olaf i ddatgan, gyda 2-1 yn dweud Ie, a lwyddodd i droi'r bleidlais o drwch blewyn. Ond mae'n cael ei anghofio'n aml bod Castell-nedd Port Talbot sydd gerllaw, wedi bod yn fwy brwdfrydig hyd yn oed, gan gofrestru canran ychydig yn uwch o bleidleisiau dros sefydlu Cynulliad.
Ond mae Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni rôl arwyddocaol mewn gwleidyddiaeth Gymreig radical ers cenedlaethau, o derfysgwyr Beca yn y 1830au a oedd yn erbyn y tollbyrth, i ethol Gwynfor Evans yn AS cyntaf Plaid Cymru ym 1966. Mae hon wedi bod yn sedd seneddol cymharol danllyd. Llwyddodd Llafur i adennill Caerfyrddin ym 1970, gan gadw gafael arni gyda thair pleidlais yn unig ym mis Chwefror 1974, a gwelwyd Gwynfor Evans yn ei hadennill eto yn ystod yr ail etholiad cyffredinol y flwyddyn honno ym mis Hydref.
Unwaith eto, cipiwyd y sedd gan Llafur ym 1979, a llwyddodd i gadw gafael ar y sedd tan 2001. Erbyn hynny, roedd y sedd wedi datblygu i fod yn sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ond roedd Plaid yn ymgodi: etholwyd Rhodri Glyn Thomas yn AC ym 1999 ac Adam Price yn AS iddi ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Mae'r sedd hon yn cynnwys mwy o siaradwyr Cymraeg nag unrhyw etholaeth arall, gyda dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad yr iaith. Mae'n etholaeth wledig ar y cyfan, ond mae'n cynnwys hen ardaloedd cloddio yng Nghwm Aman.
Archwilio Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Gallwch ddefnyddio'r dulliau rheoli ar y map isod i symud ffocws y map neu i chwyddo mewn neu chwyddo allan ohono. Neu, gallwch bwyso botwm chwith eich llygoden a thynnu'r map i'r rhan yr hoffech ei weld.
Adrannau etholiadol Sir Gaerfyrddin: (52,741)
Abergwili, Rhydaman, Y Betws, Cenarth, Cil-y-cwm, Cynwyl Gaeo, Garnant, Glanaman, Gorslas, Llanddarog, Llandeilo, Llanymddyfri, Llandybïe, Llanegwad, Llanfihangel Aberbythych, Llanfihangel-ar-arth, Llangadog, Llangeler, Llangynnwr, Llangyndeyrn, Llanybydder, Manordeilo a Salem, Pen-y-groes, Pontaman, Cwarter Bach, Llanismel, Saron.
2002 National Assembly Election
| Candidate | Party | Votes | % of Vote | +/- % |
|---|---|---|---|---|
| Rhodri Glyn Thomas | Plaid Cymru | 12,969 | 48.5 | -4.6 |
| Anthony Cooper | Labour | 8,355 | 31.2 | -0.5 |
| Harri Davies | Conservative | 3,576 | 13.4 | +4.9 |
| Steffan John | Lib Dems | 1,866 | 7.0 | +0.2 |
| Plaid Cymru Majority
Turnout |
4,614 | |||
| 49.5% | ||||

