Rhodri Glyn Thomas AM / AC
Materion yn yr Etholaeth
Yn ôl i'r mynegai Materion Etholaeth
Awyrennau Hedfan Isel
Mae rhannau helaeth o Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi eu clustnodi fel un o'r tair ardal hyfforddi tactegau milwrol yn y Deyrnas Unedig. Rhannau o Ogledd Sir Gaerfyrddin sy'n cael eu cynnwys oddi fewn i'r MTTA. Oddi fewn i'r MTTA, gall awyrennau milwrol hedfan ar uchder o 100 troedfedd yn unig.
Mae Rhodri wedi bod yn ymgyrchu i geisio sicrhau bod y DU yn dilyn esiampl gwledydd NATO eraill trwy wahardd y gweithgarwch milwrol hwn sydd wedi mynd o arfer. Mae Rhodri a'i gydweithiwr yn y Senedd, Adam Price AS, wedi darganfod nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru na Llywodraeth San Steffan wedi cynnal unrhyw waith ymchwil i effeithiau gweithgarwch hedfan gan awyrennau milwrol sy'n hedfan yn isel ar iechyd pobl, er gwaethaf y dystiolaeth o Ewrop bod y boblogaeth yn dioddef ystod o broblemau cardiofasgwlaidd a phroblemau ar y eu clyw o ganlyniad i hyn.
