Rhodri Glyn Thomas AM / AC
Areithiau ac Erthyglau
Gardd Fotaneg Genedlaethol
Nid oes unrhyw beth yn cynrychioli methiant polisi economaidd Llywodraeth Cynulliad Llafur Newydd ar gyfer Gorllewin Cymru yn well na sefyllfa ddifrifol ein Gardd Fotaneg Genedlaethol ar hyn o bryd. Mae penderfyniad y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh, ar 10 Rhagfyr y llynedd i wrthod sicrhau y bydd unrhyw arian cyhoeddus pellach ar gael i'r Ardd, wedi bod yn anffawd aruthrol i'r rhai sy'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd yng Ngorllewin Cymru.
Yn yr erthygl hon, byddaf yn pwysleisio pwysigrwydd y Gerddi i economi'r rhanbarth yn fyr; gan amlinellu'r camau y byddai fy mhlaid i wedi eu cymryd; ac yn drydydd, byddaf yn nodi'r sefyllfa bresennol.
Mae sefyllfa Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) o ran yr Ardd fel prosiect unigol yn un diffygiol iawn. Mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn brosiect Mileniwm a sicrhaodd gwerth £21m tuag at ei gostau sefydlu gan gronfeydd y loteri, ac £21m mewn arian cyfatebol gan ffynonellau eraill fel rhoddion preifat, arian ERDF, Bwrdd Croeso Cymru a LlCC ei hun. Dewisodd yr hen Swyddfa Gymreig safle Middleton yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Cymeradwywyd teitl yr Ardd Fotaneg Genedlaethol gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Paul Murphy AS. Yn ogystal, mae LlCC wedi dyfarnu cyfanswm amcangyfrifedig o £2 miliwn ers haf 2002. Y gwir amdani yw bod LlCC wedi cael dylanwad sylweddol ar ddatblygiad yr Ardd hyd yn hyn, ac mae'n rhaid iddi gymryd cyfrifoldeb teg am y sefyllfa y mae'r Ardd yn ei wynebu nawr. Roedd Llywodraeth Cymru yn llwyr ymwybodol o'r ffaith y byddai ei phenderfyniad i olchi ei dwylo o'r prosiect ar yr adeg hwn, yn gwthio'r Ardd tuag at ddatodiad a'r rheidrwydd i gau.
Mae'r tranc presennol yn gyferbyniad llwyr gyda'r ewfforia a hyrwyddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad pan agorwyd yr Ardd yn 2000. Bu Rhodri Morgan ei hun yn ymffrostio y byddai economi Gorllewin Cymru yn y dyfodol yn cael ei seilio ar Dwristiaeth. Er hyn, mae ei Lywodraeth wedi troi ei chefn ar yr atyniad hwn, sy'n cyrraedd rhif tri ar restr yr atyniadau cenedlaethol sy'n sicrhau nifer uchaf yr ymwelwyr sy'n talu i ymweld â nhw a'r prif atyniad i dwristiaid yn Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal, bu Llywodraeth Llafur Newydd yn datgan gwawr oes economaidd newydd i Orllewin Cymru wedi'i seilio ar gyfres o 'ddyffrynnoedd silicon bach'. Y nod oedd y byddai'r canolfannau hyn, o'r enw 'Techniums' yn trawsnewid yr economi rhanbarthol yn llwyddiant modern wedi'i seilio ar y dechnoleg ddiweddaraf. Mae un o'r 'Techniums' hyn wedi'i leoli yn yr Ardd. Nod y Technium Bio yw creu clwstwr o 12 cwmni gwyddonol arbenigol. Mae llwyddiant y Technium wedi'i gysylltu â'r Ardd. Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai'r effaith economaidd ar economi Gorllewin Cymru yn un sylweddol os byddai'r Ardd yn cau.
Mae barn Plaid Cymru : The Party of Wales yn ddigon amlwg. Nid yn unig y mae'r Ardd yn hynod o bwysig i economi Gorllewin Cymru, mae hefyd yn drysor cenedlaethol. Felly, mae gan y pwrs cyhoeddus a LlCC yn arbennig, rwymedigaeth i sicrhau ei bod yn goroesi. Mae'n bwysig pwysleisio elfen diddordeb cyhoeddus y prosiect cyfan. Yn anad dim, mae'r Ardd yn ganolfan arbenigedd addysgol a gwyddonol, nid atyniad i ymwelwyr yn unig yw'r prosiect. Mae prosiectau cymharol fel Gerddi Kew a'r Gerddi Botaneg Albanaidd yng Nghaeredin yn cael symiau enfawr o arian cyhoeddus. Mae Kew yn cael £20m y flwyddyn gan Lywodraeth San Steffan ac mae Senedd yr Alban yn buddsoddi £6m y flwyddyn yn ei Gerddi cenedlaethol. Byddai'r pecyn achub munud olaf a roddwyd gerbron LlCC gan yr Ymddiriedolwyr presennol wedi golygu £500,000 y flwyddyn yn unig ar gyfer y chwe blynedd nesaf. Mae Plaid Cymru yn credu bod modd cyfiawnhau'r swm hwnnw er mwyn helpu'r Cynulliad fel corff i fodloni ei amcanion cyfansoddiadol tuag at ddatblygiad cynaliadwy yn unig. Yr Ardd yw'r prosiect rhuban glas yng Nghymru o ran cynaladwyedd. Yn y pen draw, dim ond am rwyd ddiogelwch y mae'r Ymddiriedolwyr yn gofyn amdani - rhwyd ddiogelwch y gellir ei darparu gan arian cyhoeddus yn unig.
Ystyriwch y cyferbyniad rhwng y diffyg cefnogaeth hwn i sefydliad yng Ngorllewin Cymru a phenderfyniad LlCC i roi £3m Techniquest a Chanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Yn achos Big Pit ym Mlaenafon, mae'r safle cyfan wedi cael ei sicrhau mewn trefniant perchnogaeth gyhoeddus. Rydw i'n cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth yn yr achosion hyn, ond pam nad yw'r un cymorth yn cael ei roi i brosiect yn Ne Orllewin Cymru yn hytrach na chornel De Ddwyreiniol ein gwlad?
Mae fy nghydweithiwr Seneddol, Adam Price AS, a minnau yn ymwybodol y gellir gwneud gwelliannau i helpu'r Ardd i gynyddu ei gallu i sicrhau refeniw. Aethom ati i gomisiynu adroddiad manwl er mwyn cynnig rhai syniadau arloesol ynghylch y ffordd o ddatblygu'r gweithrediad presennol. Seiliwyd ein cyfraniad ar y syniad o wella 'profiad' yr Ardd ac felly, datblygu'r atyniad i ymwelwyr yn y datblygiad. Er gwaethaf yr holl adnoddau y gall LlCC fanteisio arnynt, nid yw wedi llwyddo i lunio unrhyw awgrymiadau manwl ynghylch sut i wella'r Ardd. Yn aml, mae ASau y gwrthbleidiau yn cael eu cyhuddo o feirniadu ar y cyrion. Yn anffodus, dyma'r union beth y mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud o fewn cyd-destun yr Ardd, sy'n dweud llawer am ei diffyg rhagofal a'i diffyg gweledigaeth ar gyfer dyfodol ein gwlad.
Mae nifer o sylwebwyr wedi cyfeirio at bosibilrwydd cwmni preifat yn cymryd yr Ardd drosodd gan greu atyniad sy'n debyg i atyniad Disney. Mae hyn yn arwain at gymhlethdod difrifol nad yw LlCC wedi ei ystyried hyd yn oed yn fy marn i. Mae Comisiwn y Mileniwm wedi datgan yn eglur y byddai'n ceisio adfer ei fuddsoddiad o £20m os byddai budd y cyhoedd yn cael ei fygwth mewn unrhyw ffordd.
Mae'r ymdrechion i achub yr Ardd yn parhau, diolch byth. Mae'r ymdrech bresennol yn parhau i chwilio am bartneriaid i ddiogelu'r fenter. Byddai'n eironig dros ben os byddai'r Ardd yn cael ei hachub gan fuddsoddiad o'r tu allan i Gymru ar ôl i Lywodraeth Llafur Newydd ein gwlad gefnu arni.
