Rhodri Glyn Thomas AM / AC
Areithiau ac Erthyglau
Mae angen i Llafur Newydd Ymladd dros Gymru Nawr
Mae trafodaethau allweddol yn digwydd ar hyn o bryd yn yr UE a llywodraethau'r 25 Aelod Wlad ynghylch cyllideb ariannu UE ar gyfer 2007-2013. Mae gan y trafodaethau hyn, a fydd yn dod i ben fis nesaf, oblygiadau difrifol i lefel yr arian sydd ar gael i Gymru gan UE ac yn enwedig cronfeydd strwythurol.
Ym mis Gorffennaf 2004, cynigiodd y Comisiwn Ewropeaidd gyllideb cyfan gwbl o €1020bn. Yn bwysicach fyth, cynigiodd y comisiwn gynnal nenfwd o 1.24% o Incwm Cenedlaethol Gros (GNI) yr UE i'r gyllideb, fel ag y bu trwy gydol 2000-2006. Yn ogystal, cynigiodd y comisiwn y dylai cymorth strwythurol fod ar gael i aelodau hen a newydd yr UE fel yr unig ffordd o sicrhau cydlyniad trwy'r UE cyfan.
Mae llywodraeth y DU yn dymuno gostwng gwariant cyllideb gyffredinol yr UE i 1% o GNI UE. Mae Llafur Newydd yn dymuno canolbwyntio ar arian strwythurol mewn aelod wledydd newydd, bydd yr hen aelod wledydd yn gyfrifol am weithredu eu polisi rhanbarthol eu hunain. Os bydd barn y DU yn trechu, bydd y toriadau yn cael eu gwneud ar genhedloedd a rhanbarthau yr hen 15 yn yr UE, fel Cymru.
Cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yw'r unig ddulliau ailddosbarthol sydd ar gael i Gymru. Dan Llafur Newydd, mae'r DU wedi datblygu i fod yr aelod wlad fwyaf anghyfartal yn yr Undeb Ewropeaidd o ran cyfoeth rhanbarthol. Mae gan yr Eidal hyd yn oed, gyda'r anghydraddoldeb helaeth rhwng hanner gogleddol a deheuol y wlad, fwy o gydlyniad o ran cyfoeth.
Mae'r ffaith bod Llafur Newydd wedi camweinyddu economi Cymru wedi arwain at GDP Gorllewin Cymru a'r cymoedd yn gostwng yn sylweddol i 73.8% o gyfartaledd 25 yr UE, er ei bod yn ardal Amcan 1 ar gyfer y cyfnod 1999-2006. Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn golygu y dylai Cymru fod yn gymwys i gael gwerth hyd at £3bn o arian ar gyfer y rownd Amcan 1 nesaf. Fodd bynnag, os bydd Llafur Newydd yn cael ei ffordd, ni fydd Cymru yn cael yr arian hwn.
Ar adeg pan fo rhan helaeth o Gymru yn dlotach na Slofenia a Malta, byddai'n cymunedau yn disgwyl i'n llywodraeth wneud ei gorau glas i sicrhau ein bod yn cael yr hyn y mae gennym yr hawl ei gael. Yn anffodus, mae'r enghraifft hon yn dangos unwaith eto nad oes gan Llafur Newydd fawr o ddiddordeb mewn ymladd dros fuddiannau Cymru.
